Enghraifft o'r canlynol | ffurfiant tyfiannol |
---|---|
Math | prysgoed |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maquis (gair Ffrangeg, cynaniad ma-CI) / macchia (Eidaleg / Corseg) yw'r prysgwydd sy'n tyfu ger y Môr Canoldir yn ne Ewrop. Mae'r maquis yn llawn o flodau gwyllt, llwyni a choed, yn enwedig derw fythwyrdd a derw gorcyn. Gelwir rhein yn Chaparral os fydd y dderwen fythwyrdd yn ddigonol. Mae yna diroedd tebyg mewn lleoedd eraill gyda hinsawdd y Canoldir fel y mattoral yng nghanolbarth Tsile, y fynbos yn Ne Affrica a'r mallee yn ne Awstralia.